Reflexology at Beacon Climbing Centre.

Beth yw Adweitheg?

Mae adweitheg yn therapi cyflenwol, cyffyrddiad ysgafn sy’n cael ei gario allan ar y traed neu’r dwylo. Gall ddod ag ymdeimlad dwfn o ymlacio a chydbwysedd. Pan fydd ein meddwl a’n corff a’n anghenion corfforol ac emosiynol yn gytbwys, gall hyn gynorthwyo gyda’n hiechyd a lles cyffredinol.

Mae adweitheg yn seiliedig ar yr egwyddor bod pwyntiau atgyrch penodol ar y traed a’r dwylo yn cyfateb i wahanol rannau o’r corff. Mae’r traed a’r dwylo yn fap bach ac yn ddrychddelwedd o’r corff. Rhoddir pwysau ar lefydd penodol sy’n cyfateb ag organau mewnol, chwarennau a holl systemau’r corff. Trwy bwyso a chyffwrdd yn ysgafn ar y pwyntiau atgyrch hyn, y nod yw annog y corff i adfer cyflwr o gydbwysedd, ac annog a chefnogi proses iacháu’r corff.

Mae adweitheg yn therapi cyfannol, gyda chi, y cleient yn ganolig i’r broses o wneud penderfyniadau a chynllunio gofal bob amser.

Gall Adweitheg helpu gyda:

  • Ymlacio.

  • Rhyddhau tensiwn a gwella cwsg.

  • Helpu gyda poen cyhyrol a sgerbydol.

  • Rhyddhau ffasgia.

  • Gwella hwyliau a chynyddu lles cyffredinol.

Triniaethau

Gall Adweitheg Glinigol eich cefnogi i optimeiddio eich iechyd a llesiant cyffredinol. Gall hyn, ynghyd â meddygaeth gonfensiynol, annog y corff i ail gydbwyso, ac yn ei dro yn gadael eich corff a’ch meddwl gyrraedd ei hunan orau.

Mae OrthoPody yn dechneg sy’n seiliedig ar gyfres o siartiau continwwm Cyhyrol fascia (CCF) sy’n adlewyrchu damcaniaethau sefydledig o Drenau Anatomeg gan Tom Myers, ar y traed, a grëwyd gan Annie Trigg a Sue Alma Evans. Mae pob llinell ffasgia yn cynrychioli cadwyn o gyhyrau, ffasgia perthnasol a llinellau tensiwn meridial y corff. Bydd y gadwyn a weithiwyd yn cael ei mesur cyn ac ar ôl triniaeth gan Anwen, sy’n rhoi tystiolaeth bendant i chi o effeithiolrwydd y driniaeth. Mae OrthoPody yn trin y nifer o faterion sy’n gysylltiedig ag uniondeb cyhyrsgerbydol. Mae’r boen, anystwythder, colli cryfder ac elastigedd sy’n cael eu achosi gan anaf, arferion osgo gwael, atroffi cyhyrau, neu straen, i gyd yn effeithio’n drwm ar gyhyrau a ffasga.

Mae hwn yn driniaeth ar gyfer cleientiaid sy’n dioddef boen asgwrn cefn ac effeithiau chwiplash. Mae’n therapi arloesol a ddatblygwyd gan Gunnel Berry, ffisiotherapydd GIG sy’n arbenigo mewn trin pobl â phoen cronig ac acíwt yn y cefn, gan gynnwys chwiplash. Mae Gunnel wedi datblygu’r protocol hwn dros ddeng mlynedd, ar ôl cynnal ymchwil helaeth a chwblhau miloedd o astudiaethau achos. Rhoddir pwysau ar rannau o’r droed gan ddefnyddio techneg benodol.

Mae hwn yn therapi a grëwyd gan athrawes anghenion addysgol arbennig yn wreiddiol ar gyfer plant ysgol i gefnogi lles emosiynol pobl ifanc ag anghenion ychwanegol ac amrywiol, lefelau uchel o bryder ac anawsterau cyfathrebu. Oherwydd ei boblogrwydd, mae’r model yn parhau i ddatblygu. Erbyn hyn mae yna lawer o lwybrau cymorth gan ddefnyddio egwyddorion Therapi Atgyrch Gweithredol sy’n fuddiol i’r gymuned ehangach. Mae Anwen yn cynnal FRT mewn ysgolion a gweithleoedd i leihau straen a phryder disgyblion ac athrawon a staff. Mae hi’n cynnal sesiynau un i un, gan ddysgu technegau ymlacio a sesiynau hunanofal o’i hystafell therapi i deuluoedd.

Mae Anwen wedi derbyn hyfforddiant arbenigol mewn adweitheg mamolaeth o Ysgol Iechyd Naturiol Gaia. Mae wedi’i anelu at ferched yn ystod eu beichiogrwydd ac yn y cyfnod ôl-enedigol. Mae eich corff a’ch meddwl yn mynd drwy lawer o newidiadau. Gall cymryd amser i ffwrdd i chi ‘ch hun a’ch babi, yn ystod y daith hon, eich helpu i ddod o hyd i’ch tawelwch mewnol. Rydych chi’n mynd trwy gyfnod llawen a phryderus. Wrth ir amser i babi gyrraedd yn agosáu bydd angen i chi flaenoriaethu ymlacio wrth baratoi ar gyfer yr enedigaeth.

Gall Anwen gefnogi cyplau neu unigolion drwy’r daith ffrwythlondeb, boed hynny’n naturiol, neu os ydych chi’n derbyn IUI neu IVF.

  • Niwroleg – astudio’r System Nerfol
  • Endocrinoleg – astudiaeth y System Endocrinaidd
  • Seicoleg – astudio’r meddwl a’r ymddygiad
  • Imiwnoleg – astudio’r System Imiwnedd
  • Pody – sy’n golygu traed mewn Groeg

Mae’r protocol adweitheg ddatblygedig hwn ar flaen y gad mewn Adweitheg. Dim ond myfyrwyr Adweitheg Lefel 5 sy’n dysgu’r dechneg hon.

Mae NEPIP yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol yn y corff sy’n gysylltiedig â straen a phryder. Mae NEPIP yn canolbwyntio ar y systemau endocrin, nerfol ac imiwnedd gyda dealltwriaeth o’r seicoleg a’r ffordd y mae straen yn effeithio’n andwyol ar y systemau hyn.

Protocol adweitheg arbenigol yw NEPIP sy’n seiliedig ar egwyddor SNI (Seiconeuroimmunoleg). Mae SNI yn astudio sut mae’r ymennydd yn cyfathrebu â systemau eraill y corff a sut y gall emosiynau effeithio ar ein iechyd, a sut y gall straen gael effaith niweidiol ar ein iechyd. Mae NEPIP yn gweithio ar y brif egwyddor bod pob system gorfforol yn cyfathrebu gyda’i gilydd i wneud y gorau a gweithio mor effeithiol â phosib.

Defnyddir delweddu dan arweiniad, anadlu a bwriad o fewn y protocol hwn. Mae hefyd yn ymgorffori Echel HPA, (Echel Hypothalmws- Pitẅidol- Adrenal) sy’n chwarae rhan ganolog wrth reoli ymateb y corff i straen.

Rwy’n gweithio’ch dwy droed ar yr un pryd, gan ddefnyddio techneg duopody.

Rwyf yn cynnig adweitheg yn y gweithle i gefnogi a rheoli straen a gôr bryder.

‘Rwyf wedi bod yn gweithio gyda staff mewn wahanol leoliadau, o ysgolion i swyddfeydd ac yn rhithiol gyda cymdeithasau.

Mae ymchwil yn dangos fod adweitheg yn y gweithle yn gallu cynorthwyo gyda llesiant y gweithlu. Mae straen a gôr bryder yn cael effaith negyddol uniongyrchol ar les corfforol a seicolegol. Gall ddefnyddio technegau hunan ofal adweitheg fod o gymorth i ymlaciol a lleihau y straen yma.

Gallaf weithio gyda timau cyfan neu unigolion i gefnogi eu iechyd a’i llesiant.

Oes gennych chi gwestiwn?

Ydi! Mae adweitheg yn ddiogel i bron i bawb, ond bydd cwestiynau am eich iechyd yn cael ei lenwi cyn y driniaeth. Mae yna ambell achlysur pan na fyddwn yn cario allan adweitheg:

  • Cyflwr calon ansefydlog sydd dal dan archwiliad
  • Twymyn uchel
  • DVT
  • Os ydych chi’n cael profion meddygol agos
  • Dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol
  • Toriadau traed, straen neu ysigiadau sy’n ddiweddar

Mae’r pwysau a ddefnyddir yn wahanol iawn. Ond os ydych chi’n pryderu, gallwn i addasu i weithio ar eich dwylo.

Na.  Dim ond eich traed neu’ch dwylo fydd eu hangen arnaf. Felly, gofynnaf ichi dynnu’ch esgidiau. Efallai y byddai’n fwy cyfforddus i chi wisgo dillad llac wrth ddod i’r sesiwn gan y byddwch chi’n ymlacio, ond nid yw hyn yn angenrheidiol.

Rwy’n defnyddio cwyr adweitheg benodol. Mae hyn yn helpu i leihau unrhyw ffrithiant a allai gael ei achosi gan gyswllt croen yn unig. Os oes gennych unrhyw alergeddau yna cysylltwch â mi a byddaf yn trafod y cynhwysion yn y cynhyrchion cyn y driniaeth.

Am Anwen.

Mae Anwen yn gyn nyrs ac yn Ymarferydd Adweitheg Clinigol sydd wedi hyfforddi i’r lefel a safon uchaf o Adweitheg yn y DU, MAR, CRM5Dip. Mae Anwen hefyd yn Ymarferydd Orthopody sydd yn gweithio ar ryddhau system ffasgia y corff trwy’r traed gyda thechneg newydd arloesol sydd yn seiliedig ar waith Thomas W. Myers. Mae hi hefyd yn cario allan Adweitheg wedi’i Addasu sy’n gweithio ar y traed i drin cleientiaid sy’n dioddef o boen asgwrn cefn ac effeithiau chwiplash. Mae cefndir Anwen yn gymorth i ddarparu therapi manwl, cyfannol sydd wedi’i deilwra’n unigol i chi.

Mae Anwen yn aelod o’r AoR (Cymdeithas Adweithegwyr). 

Mae Cymdeithas Adweithegwyr yn gorff proffesiynol. Mae aelodau wedi’u hyfforddi i’r safonau uchaf, gyda yswiriant llawn a mae’n ofynnol iddynt gael hyfforddiant parhaus rheolaidd a datblygiad proffesiynol, DPP.

Mae Anwen hefyd yn aelod o CNHC (Cyngor Gofal Iechyd Cyflenwol a Naturiol). 

Sefydlwyd CNHC gyda cefnogaeth y llywodraeth i ddiogelu’r cyhoedd drwy ddarparu cofrestr wirfoddol o ymarferwyr iechyd yn y DU. Mae cofrestr CNHC wedi’i chymeradwyo fel Cofrestr Achrededig gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Gwybodaeth Cyswllt.